Mater - cyfarfodydd
Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru
Cyfarfod: 14/05/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 8)
8 Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru PDF 110 KB
Pwrpas: Ceisio cytundeb bod Cyngor Sir y Fflint y mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - A Shared Parenting Pledge, eitem 8 PDF 1019 KB
- Enc. 2 - Becoming a Corporate Parent, eitem 8 PDF 813 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru
Cofnodion:
Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones y Siarter Rhianta Corfforaethol, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru yn cael eu tanategu gan rymuso, cydraddoldeb, dim gwahaniaethu, cyfranogiad, ac atebolrwydd ac amddiffyn. Gofynnwyd i’r aelodau ailddatgan eu cyfrifoldeb ar y cyd fel ‘rhieni corfforaethol’ drwy fabwysiadu’r Siarter, gydag ymrwymiad i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fesur llwyddiant sefydliadol ac ymrwymiad i’r Siarter.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Chris Bithell.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’; a
(b) Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.