Mater - cyfarfodydd
Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai
Cyfarfod: 12/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 8)
8 Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai PDF 136 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Housing Strategy Action Plan Progress Report 31st March 2023, eitem 8 PDF 401 KB
- Appendix 2 - Risk Matrix, eitem 8 PDF 342 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a Rheolwr Strategol Tai a’r Rhaglen Gyflawni adroddiad i roi diweddariad ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 gyda phwyslais penodol ar flwyddyn ariannol 2023/24. Ar gais y Cynghorydd Helen Brown, byddai nodyn briffio am y risgiau yn y dyfodol yn cael ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn gweithdai’r Strategaeth Tai. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad i’r canlynol: · Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP). · Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol. |