Mater - cyfarfodydd
Dileu Ardrethi Busnes
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 30)
30 Dileu Ardrethi Busnes PDF 101 KB
Pwrpas: Ceisio awdurdod i ddileu dyledion Ardrethi Busnes na ellir eu hadennill o fwy na £25,000.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd, ar gyfer drwgddyledion unigol o fwy na £25,000, bod y Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (adran 5.2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cabinet gymeradwyo’r argymhellion i ddiddymu dyledion.
Ystyriwyd nad oedd modd adennill tair dyled Ardrethi Busnes, yn ymwneud â chwmnïau a oedd wedi dirwyn i ben, a chyfanswm o £99,085.39, ac roedd diddymu’r dyledion bellach yn gam angenrheidiol. Mae’r dyledion yn ymwneud â:
- Ace Rotomould Ltd £40,986.72
- Premier English Manufacturing Ltd £33,062.00
- Premier Grip Trading Ltd £25,036.67
Nid oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Cyngor na threthdalwyr lleol drwy ddiddymu’r tair dyled hon.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diddymu dyledion ardrethi busnes, a oedd yn gyfanswm o £40,986.72 ar gyfer Ace Rotomould Ltd, £33,062 ar gyfer Premier English Manufacturing Ltd, a £25,036.87 ar gyfer Premier Grip Trading Ltd.