Mater - cyfarfodydd

Draft Clwyd Pension Fund Business Plan 2024-25 to 2026-27

Cyfarfod: 20/03/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 47)

47 Cynllun Busnes Drafft Cronfa Bensiynau Clwyd 2024-25 i 2026-27 pdf icon PDF 139 KB

Cyflwyno Cynllun Ddraft Busnes Cronfa Bensiynau Clwyd i Aelodau’r Pwyllgor, gan gynnwys y gyllideb ar gyfer 2024/25  ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Mr Latham â’r Pwyllgor drwy’r cyflwyniad i’r Cynllun Busnes Drafft fesul tudalen gan amlygu meysydd gwaith a risgiau allweddol. 

 Aeth Mr Emmerson o Aon â’r Pwyllgor drwy Atodiad Llywodraethu’r Cynllun Busnes Drafft. Amlygodd y tasgau a’r risgiau allweddol, yn cynnwys:

-       Cynllunio olyniaeth ac adolygiad arfaethedig o’r strwythur rheoli. 

-       Cod Ymarfer Cyffredinol newydd y Rheoleiddiwr y disgwylir iddo effeithio ar adolygiad perfformiad y dyfodol

-       Bydd y broses dendro am Ymgynghorydd Buddsoddi yn dechrau’n gynnar yn y flwyddyn er mwyn gallu manteisio ar wybodaeth Mrs Fielder yn y maes hwn cyn iddi ymddeol. Bydd hyn yn galluogi hyfforddi staff ar gyfer y contract ymgynghorydd annibynnol pan fydd yn mynd allan am dendr yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

-       Adolygiadau o Gynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Bwrdd Pensiynau sydd ar ddod.

 

Pwysleisiodd Cynghorydd Shallcross bwysigrwydd gwaith cysgodi gan swyddogion er mwyn cynnal gwybodaeth.

Gofynnodd Mr Hibbert a fydd Cynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Pwyllgor yn cael eu hadolygu ar yr un pryd â Chynrychiolwyr Aelodau Cynllun y Bwrdd Pensiwn. Dywedodd Mrs McWilliam na fyddai’n argymell hyn oherwydd y gwahaniaeth mewn cyfraddau amser. 

Cyflwynodd Mr Middleman a Mr Turner Atodiad Cyllid, Cyllido a Buddsoddi’r Cynllun Busnes Amlygodd Mr Middleman yr Adolygiad Prisio Interim a fydd yn digwydd yr haf hwn ac a fydd yn rhoi sylw i nifer o themâu a drafodwyd yn gynharach cysylltiedig â cham 2 o’r adolygiad strategol.  Eglurodd mai’r Pwyllgor fydd yn cael Hyfforddiant ar y Strategaeth  Gyllido a Phrisio Actiwaraidd yn barod ar gyfer Prisiad Actiwaraidd ffurfiol y flwyddyn nesaf. Eglurodd Mr Turner y themâu cysylltiedig â buddsoddi allweddol yn cynnwys yr adolygiad ISS ac adroddiadau’r Tasglu Datgeliadau Cysylltiedig â Natur (TNFD)

 

Cyflwynodd Mr Karen Williams yr Atodiad Gweinyddol, gan amlygu newidiadau i’r rhestr o weithgareddau ‘busnes fel arfer’ i adlewyrchu twf cyfrifoldebau dydd i ddydd y tîm gweinyddu. Cafodd nifer o dasgau allweddol eu dwyn ymlaen o gynllun busnes y llynedd fel y trafodwyd ym mhwyllgor mis Chwefror, ac roedd yna hefyd rai tasgau newydd yn cynnwys cofnodi gweithdrefnau cysylltiedig â pholisi disgresiynol y Gronfa o safbwynt grantiau marwolaeth, a datblygu polisi uwchgyfeirio i gefnogi cyflogwyr nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau cysylltiedig â’r Gronfa. 

 Cyflwynodd Mr Bateman y gyllideb ar gyfer costau gweithredu 2024 - 2025 gan egluro’r prif feysydd o newid, yn cynnwys:

-       Mae costau gweithwyr yn seiliedig ar y niferoedd presennol gan ganiatáu 5% ar gyfer codiadau cyflog. Roedd gwir gostau gweithwyr 2023-24 yn is na’r hyn y cyllidebwyd ar eu cyfer oherwydd swyddi gwag sydd bellach wedi’u llenwi. 

-       Mae costau hyfforddi yn awr yn cael eu hadrodd ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor,  aelodau’r Bwrdd Pensiynau a Swyddogion.

-       Mae’r holl gostau ymgynghorwyr yn cynnwys prosiectau a ddynodwyd yn y cynllun busnes ac yn seiliedig ar y codiadau chwyddiant cytunedig yn y contractau. Fodd bynnag bydd y Gronfa yn tendro am gontract yr ymgynghorydd buddsoddi yn ystod 2024-2025 felly gallai’r rhain newid 

-       Mae’r gyllideb ar gyfer treuliau rheoli buddsoddi wedi cynyddu oherwydd gwerth ased net cynyddol y Gronfa yn  ...  view the full Cofnodion text for item 47