Mater - cyfarfodydd
Draft Wales Pension Partnership Business Plan 2024-25 to 2026-27
Cyfarfod: 20/03/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 46)
46 Cynllun Busnes Drafft Partneriaeth Pensiynau Cymru 2024-25 i 2026-27 PDF 144 KB
Cyflwyno Cynllun Busnes drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i’r Pwyllgor, yn cynnwys amcanion a chyllideb PPC ar gyfer 2024/25 i’w gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Draft Wales Pension Partnership Business Plan 2024-25 to 2026-27, eitem 46 PDF 4 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Drafft Partneriaeth Pensiynau Cymru 2024-25 i 2026-27
Cofnodion:
Eglurodd Mrs Fielder bod Cynllun Busnes PPC wedi’i dderbyn gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu yr wythnos ddiwethaf ac na chafwyd cais am unrhyw newidiadau, sy’n golygu mai’r Cynllun oedd wedi’i gynnwys gyda’r papurau cefndir oedd yr un terfynol ar gyfer ei gymeradwyo. Aeth â’r Pwyllgor drwy brif bwyntiau’r adroddiad, yn arbennig y gyllideb a’r costau blynyddol. Nododd gyflwyniad clustnodwyr marchnadoedd preifat sy’n denu ffioedd uwch yn seiliedig ar symiau cyfalaf wedi’u hymrwymo neu gyfalaf wedi’i fuddsoddi, a bod y costau hyn yn awr wedi’u cynnwys yng nghyllideb PPC.
Dywedodd Mr Hibbert nad oedd ganddo unrhyw gwynion am y Cynllun Busnes ond nododd ei bryderon ynghylch llywodraethiant PPC a’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu’n benodol. Cyfeiriodd at dudalen 5 sy’n datgan:
“Mae'r Awdurdodau Cyfansoddol yn ymwneud llawer â holl agweddau strwythur llywodraethu'r Bartneriaeth, tra bo Cyd-bwyllgor Llywodraethu'r Bartneriaeth a'r Gweithgor Swyddogion yn cynnwys cynghorwyr etholedig, cynrychiolwyr aelodau’r cynllun a swyddogion o'r Awdurdodau Cyfansoddol.”
Dywedodd Mr Hibbert bod hyn yn rhoi’r argraff bod statws cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yr un fath ag aelodau eraill y Cyd-bwyllgor Rheoli. Eglurodd Mr Hibbert nad yw hyn yn gywir yn ei farn ef, gan fod Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun yn gorfod bodloni manyleb unigolyn, swydd ddisgrifiad, cyfweliad ac yn destun cyfyngiad amser o ddwy flynedd yn y rôl, gyda’r rôl hefyd yn un heb bleidlais, yn wahanol i aelodau eraill y Cyd-bwyllgor Gofynnodd a wnaed unrhyw gynnydd o ran gwneud cynrychiolydd aelodau’r cynllun yn aelod cyfartal o’r Cyd-bwyllgor.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariad ar hyn a dywedodd bod yn rhaid i bob awdurdod cyfansoddol gytuno ar unrhyw newidiadau. Dywedodd bod cynrychiolydd aelodau presennol y Cyd-bwyllgor wedi newid meddwl y Cyd-bwyllgor sawl gwaith ac er nad oes ganddo bleidlais, mae’n ddylanwadol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod hyn gyda’r Cyd-bwyllgor ond nad yw’n rhagweld y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud.
PENDERFYNWYD:
Nododd y Pwyllgor y diweddariad a chymeradwywyd Cynllun Busnes drafft PPC 2024/25 - 2026-27, yn cynnwys amcanion a chyllideb y Bartneriaeth.