Mater - cyfarfodydd
Risk Policy
Cyfarfod: 20/03/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 45)
45 Cronfa Bensiynau Clwyd Ddraft Polisi Rheoli Risg PDF 149 KB
Cyflwyno’r Polisi Rheoli Risg newydd i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- DRAFT Risk Policy Mar 2024 - draft for PFC approval - v2, eitem 45 PDF 784 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd Ddraft Polisi Rheoli Risg
Cofnodion:
Aeth Mrs McWilliam a’r Pwyllgor drwy’r adroddiad gan amlinellu cefndir yr adolygiad a’r cysylltiadau â Fframwaith Rheoli Risg Cyngor Sir y Fflint. Eglurodd y prif newidiadau i Bolisi Rheoli Risg y Gronfa (Polisi Risg gynt), yn cynnwys adran newydd yn amlinellu cyfrifoldebau’r Pwyllgor ac uwch swyddogion, yr adolygiad misol o’r gofrestr risg gan swyddogion, newidiadau i’r ffordd y caiff risgiau eu sgorio sy’n golygu y bydd risgiau coch yn fwy difrifol nag y maent o dan y drefn sgorio bresennol, a’r broses ffurfiol ar gyfer uwchgyfeirio risgiau coch.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Polisi Rheoli Risg.