Mater - cyfarfodydd
Investment Strategy Review Phase 2 - 110% Funding Level Trigger Framework
Cyfarfod: 20/03/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 44)
44 Adolygu'r Strategaeth Fuddsoddi Cam 2 - Fframwaith Sbardun Lefel Cyllido 110% PDF 165 KB
Cyflwyno’r weithred ddiofyn arfaethedig i leihau risg i Aelodau’r Pwyllgor pan gyrhaeddir y sbardun cyllido 110% a chynllun dirprwyo a ddiweddarwyd i’r Pwyllgor i’w adolygu a’i gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment Strategy Review Phase 2 - 110 Funding Level Trigger Framework, eitem 44 PDF 268 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygu'r Strategaeth Fuddsoddi Cam 2 - Fframwaith Sbardun Lefel Cyllido 110%
Cofnodion:
Eglurodd Mr Middleman o Mercer bod sbardun lefel buddsoddi’r Gronfa o 110% wedi’i gyrraedd ers cyhoeddi’r papurau ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac yr amcangyfrifir mai’r lefel gyllido bresennol yw 112%. Roedd y lefel cyllido’n cael ei ddilysu yn unol â’r protocol cyfredol cyn cymryd unrhyw gamau, ond disgwylir iddo fod dros 110% yn hawdd.
Aeth Mr Nick Page â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd bod yr adolygiad yn edrych ar pa welliannau strategol y gellid eu gwneud pe bai’r sbardun lefel cyllido o 110% yn cael ei gyrraedd, a sut y byddai’r fframwaith llywodraethu cysylltiedig â gweithredu’r sbardun yn cael ei ddiweddaru. Yr ymagwedd a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhan hon o’r adolygiad oedd i daro cydbwysedd rhwng defnyddio cyllid dros ben i leihau cyfraniadau’r cyflogwr yn y prisiad actiwaraidd nesaf ar yr un pryd a gostwng rhywfaint o’r risg buddsoddi o’r strategaeth er mwyn sefydlogi sefyllfa gyllido’r dyfodol ymhellach ac yn sgil hynny, gyfraniadau’r cyflogwr.
Roedd yr adolygiad yn edrych hefyd ar weithrediad y newidiadau arfaethedig ac yn cynnig diweddariad i’r cynllun dirprwyo er mwyn lleihau’r oedi rhwng taro’r sbardun a gweithredu. Y cynnig oedd bod y pwyllgor yn diffinio camau gweithredu diofyn er mwyn dadrisgio pan gaiff y sbardun ei daro, a fydd yn cael ei ddilyn oni bai bod Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd, ar ôl cael cyngor ffurfiol fel rhan o’r Gr?p Cyllido a Rheoli Risg, yn penderfynu peidio mynd ymlaen a’r camau diofyn. Yn y senario hon, byddai cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Gronfa Bensiynau’n cael ei alw i ystyried y materion, a gofynnir i’r Pwyllgor benderfynu a ddylid cymeradwyo dull gweithredu arfaethedig Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.
Nododd Mrs McWilliam na ddylai’r newyddion bod y sbardun lefel cyllido wedi’i gyrraedd (yn amodol ar ddilysiad) ddylanwadu ar benderfyniad y Pwyllgor ynghylch yr argymhelliad hwn.
Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross a oedd unrhyw arwydd o ddirywiad ym mherfformiad y farchnad, a dywedodd Mr Page bod barn Mercer o farchnadoedd ecwiti yn gadarnhaol Gofynnodd y Cynghorydd Shallcross pam ddim cynnal y lefel risg bresennol hyd nes y bydd perfformiad yn newid, a pha mor gyflym y gellid newid cyfraniadau cyflogwyr gan y gallai hyn, o ystyried sefyllfa ariannol bresennol y cynghorau, fod yn amser da i fanteisio ar warged. Dywedodd Mr Page na fyddai unrhyw newidiadau i gyfraddau’r cyfraniadau’n digwydd tan ar ôl y prisiad ffurfiol nesaf (31 Mawrth 2025) gyda’r cyfraddau newydd i ddechrau o 1 Ebrill 2026, ac er bod y farn o’r ecwitïau'n ffafriol ar hyn o bryd, gallai hyn newid yn gyflym. Felly os mai’r penderfyniad fyddai cynnal y lefel bresennol o risg, mae posibilrwydd y byddai unrhyw ddirywiad cyn y prisiad actiwaraidd nesaf yn effeithio ar unrhyw ostyngiad posibl mewn cyfraddau cyfraniadau oherwydd y gwarged uwch sydd gan y gronfa ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Mr Turner bod yr opsiwn i gynnal y lefel bresennol o risg wedi’i ystyried fel rhan o’r adolygiad ond nodwyd mai bwriad y sbardun oedd ystyried dadrisgio. Cadarnhaodd na fyddai’r cynnig yn lleihau’r enillion disgwyliedig islaw anghenion y gronfa ... view the full Cofnodion text for item 44