Mater - cyfarfodydd
Investment Strategy Review and Update to Investment Strategy Statement
Cyfarfod: 20/03/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 43)
Rhoi’r dyraniad asedau strategol arfaethedig i aelodau’r Pwyllgor a rhoi’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi wedi’i ddiweddaru i’r Pwyllgor ei gymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Encl 1 nvestment Strategy Statement 2024 - English - March Committee Draft (Tracked), eitem 43 PDF 815 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cam un o'r Adolygiad o'r Strategaeth Fuddsoddi a Diweddariad ar Ddatganiad y Strategaeth Fuddsoddi
Cofnodion:
Aeth Mr Turner o Mercer â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad. Eglurodd resymeg a chwmpas yr adolygiad Cam 1, sy’n canolbwyntio ar ffurfioli cynllun i gyrraedd y dyraniad targed i gronfa ecwitïau gweithredol cynaliadwy PPC. Roedd yna hefyd amcan i sicrhau bod cynllun clir a chadarn yn ei le i ddiwallu anghenion hylifedd y gronfa ar gyfer taliadau pensiwn rheolaidd ac i fodloni ymrwymiadau marchnadoedd preifat dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaed hyn gan ystyried sut y gallai newidiadau posibl mewn strategaeth helpu’r Gronfa i wireddu ei hamcanion buddsoddi cyfrifol.
Eglurodd Mr Turner rai o’r newidiadau posibl mewn strategaeth a oedd yn cael eu hystyried ac amlinellodd y newidiadau arfaethedig i’r dyraniad asedau strategol a’r Datganiad Buddsoddi Strategol (ISS) o ganlyniad i’r adolygiad.
PENDERFYNWYD
Bod y Pwyllgor yn cytuno ar y dyraniad asedau arfaethedig ar gyfer y gronfa ac yn cymeradwyo’r ISS diweddaredig.