Mater - cyfarfodydd

Pooled Budget Agreement for Care Home Accommodation for Older People

Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 142)

142 Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gr?p Cyllideb Gyfun Gogledd Cymru i fodloni gofynion cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau cyfun rhwng llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i gynghori ar y dull rhanbarthol arfaethedig o gyflawni gofynion cyfreithiol y Cyngor mewn perthynas â sefydlu a chynnal cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartrefi gofal yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 (“rheoliadau 2015”), a cheisio estyniad i ad infinitum y trefniant.

 

Ym mlwyddyn ariannol 2019-2020, sefydlwyd cyllideb gyfun ranbarthol heb rannu risg ar gyfer Gogledd Cymru a derbyniwyd cymeradwyaeth gychwynnol y Cabinet yn Sir y Fflint ar 16 Gorffennaf 2019.  Roedd y trefniant ar waith o 1 Ebrill 2019 ac fe gytunwyd y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y trefniadau, felly’n gweithredu’r gronfa gyfun ar ran y partneriaid i gyd.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod angen penderfyniad yn awr i barhau â’r trefniadau ar gyfer cronfa gyfun heb rannu risg (a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran chwe Chyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) o ran y gwariant rhanbarthol ar swyddogaethau llety cartrefi gofal ar gyfer pobl h?n.

 

O ystyried gwerth y gronfa gyfun, roedd angen awdurdod y Cabinet i’r Cyngor ymrwymo i’r cytundeb a ddiweddarwyd i reoleiddio ein perthynas barhaus â’n partneriaid o ran sefydlu a gweithredu'r gronfa gyfun.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol i fodloni gofynion Rhan 9 yn Neddf 2014 sy’n ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; ac

 

(b)       Y rhoddir cymeradwyaeth i'r Cyngor ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, yn rheoleiddio gweithrediad a threfniadau llywodraethu mewn perthynas â’r gronfa gyfun nes y bydd angen terfynu’r cytundeb.