Mater - cyfarfodydd

Social Value Update Report

Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 144)

144 Adroddiad Diweddaru ar Werth Cymdeithasol pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad diweddaru ar werth cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod cynhyrchu gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu a chaffael y Cyngor yn cyfrannu’n sylweddol at gynyddu gwerth cymdeithasol a darparu gwerth ychwanegol, felly roedd yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol ar gyfer y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn amlinellu data perfformiad chwe mis olaf blwyddyn ariannol 2022/23, ynghyd â chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2023/24.   Roedd yr adroddiad hefyd yn crynhoi’r meysydd canolbwynt nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod 2024/25.

 

Roedd y terfynau amser presennol ar gyfer adrodd yn golygu ei bod yn anodd adrodd ar flwyddyn ariannol gyfan.   Argymhellir er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol y bydd angen newid mewn amseroedd adrodd ar gyfer y dyfodol.   Argymhellwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar gyfer chwarter 3 a 4 2023/24 ym mis Medi 2024 ac yna symud i adroddiad blynyddol ym mis Mai neu fis Mehefin bob blwyddyn.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r perfformiad cadarnhaol a gyflawnwyd mewn perthynas â chreu gwerth cymdeithasol ar gyfer chwarter tri a phedwar yn y flwyddyn ariannol 2022/23, yn ogystal â dau chwarter cyntaf 2023/24;

 

(b)       Cefnogi’r camau nesaf ar gyfer y rhaglen gwerth cymdeithasol, fel yr amlinellir yn yr adroddiad; ac

 

(c)        Er mwyn alinio adroddiadau perfformiad gyda’r flwyddyn ariannol, cymeradwyo adroddiad perfformiad gwerth cymdeithasol blynyddol sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mehefin bob blwyddyn.