Mater - cyfarfodydd

Responsible Individuals Annual Report

Cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 49)

49 Adroddiad Blynyddol ar Unigolion Cyfrifol pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad y gwasanaethau darparwyr mewnol mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol ei hun fel yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn sicrhau fod gwasanaethau darparwyr yn bodloni’r gofynion statudol fel y nodir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 (RISCA).  Adroddodd sut roedd y gwasanaethau mewnol rheoledig a restrir isod wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf:

 

·      Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n – Marleyfield House, Llys Gwenffrwd a Croes Atti

·      Tai Gofal Ychwanegol – Llys Eleanor, Llys Jasmine, Llys Raddington, Plas Yr Ywen.

Ywen.

·      Cefnogaeth Gymunedol i Bobl H?n – ardaloedd Treffynnon, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug.

·      Seibiant tymor byr i bobl ag anableddau dysgu – Hafod a Woodlee.

·      Byw â Chymorth – 17 cartref ar hyd a lled Sir y Fflint

 

A hyd at yn ddiweddar

 

·      Gwasanaethau Plant - T? Nyth, Park Avenue a’r Cartrefi Grwpiau Bychan.  Ond o ganlyniad i faint y portffolio mae Melvin Jones wedi ei benodi fel yr Unigolyn Cyfrifol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Swyddog Cyfrifol fod staffio yn her ac ers y pandemig roedd yna 50,000 yn llai o weithwyr gofal ar draws y DU.  Dywedodd fod blaenoriaeth wedi ei roi i staffio a’u bod wedi dechrau gweld ychydig o welliant er bod y cyflog yn her o ran cadw staff.  Eglurodd fod y staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, yn arbennig os oeddent wedi cael diwrnod heriol.  Dywedodd mai un fantais i staff oedd eu bod yn gallu defnyddio un o’r 6 car trydan ar sail rota i atal traul ar eu car eu hunain a hefyd roedd yn eu galluogi i fynd i’r gwaith os oedd problem gyda’u car eu hunain. Dywedodd wrth aelodau eu bod yn ystyried cael mwy o geir yn y dyfodol. 

 

 Dywedodd fod yr 16 gwely yn Marleyfield yn welyau i bobl sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ac roedd anghenion unigolion yn cael eu hasesu yn Marleyfield House gan dîm gofal estynedig i gefnogi eu hasesiad a hefyd eu hailalluogi gan ystyried eu hanghenion yn y tymor hirach.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyd-destun y gair heriol yn yr adroddiad mewn perthynas â’r 16 gwely yn Marleyfield ar gyfer rhyddhau’n uniongyrchol o’r ysbyty.  Eglurodd fod ffurfio partneriaeth gydag ysbytai yn anochel yn gallu achosi pwysau gan yr ysbytai ar y rheolwr yn Marleyfield pan maent yn ymwybodol fod gwelyau ar gael. Ychwanegodd eu bod dros y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithredu yn gyson gyda 14 i 15 o welyau’n cael eu defnyddio.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Oedolion ei bod yn heriol ar brydiau i ddod o hyd i’r bobl briodol gyda’r potensial adferol os oeddent mewn gwely ysbyty acíwt gan fod pobl yn colli sgiliau’n gyflym ac yn colli annibyniaeth.  Eglurodd fod yna sgil benodol o ran adnabod y bobl sydd â’r potensial i ddod yn ôl i’w lleoliad a gwella a nododd fod pethau wedi gwella dros y 12 mis diwethaf  ...  view the full Cofnodion text for item 49