Mater - cyfarfodydd

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru

Cyfarfod: 13/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 7)

7 Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd - Adroddiad Diweddaru pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.

 

Yn dilyn trafodaeth, ailadroddodd y Cadeirydd y pryderon ynghylch nad yw’r broses apelio yn caniatáu cynrychiolaeth gan yr awdurdod lleol a mynegodd y dylai’r Pwyllgor, efallai, fyfyrio ar hyn yn ystod y diweddariad nesaf.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa o ran anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.