Mater - cyfarfodydd
Audit Wales Report: Homelessness Services - Flintshire County Council
Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 141)
141 Adroddiad Archwilio Cymru: Gwasanaethau Digartrefedd – Cyngor Sir y Fflint PDF 105 KB
Pwrpas: Rhannu canfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir y Fflint gyda’r Cabinet a cheisio cymeradwyaeth i ddarparu ymateb sefydliadol ffurfiol i Archwilio Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Audit Wales Report: Homelessness Services - Flintshire County Council, eitem 141 PDF 94 KB
- Enc. 2 for Audit Wales Report: Homelessness Services - Flintshire County Council, eitem 141 PDF 765 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Archwilio Cymru: Gwasanaethau Digartrefedd – Cyngor Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac egluro fel rhan o raglen waith Archwilio Cymru ar gyfer 2023, nodwyd digartrefedd fel maes o ddiddordeb. Roedd y Cyngor wedi nodi digartrefedd ac anghenion tai fel materion risg uchel drwy fframweithiau rheoli risg lleol ac yn croesawu’r adolygiad.
Cynhaliwyd yr adolygiad dros sawl mis o fis Ebrill 2023 i fis Medi 2023. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ar 11 Ionawr 2024.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu proses yr adolygiad gan Archwilio Cymru ac yn rhannu’r canfyddiadau yn eu hargymhellion ar gyfer y Cyngor yngl?n â’r dull lleol ar gyfer digartrefedd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r argymhellion hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint;
(b) Cefnogi’r ymatebion awgrymedig i argymhellion Archwilio Cymru; ac
(c) Y rhoddir diolch swyddogol i’r Tîm Digartrefedd ac Atal am eu gwaith a wnaed ar gyfer yr heriau a wynebir yn ddyddiol