Mater - cyfarfodydd

Homelessness & Rough Sleeper Update Report & Homelessness Policy

Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 134)

134 Adroddiad Diweddaru ar Ddigartrefedd a Phobl sy’n Cysgu Allan a’r Polisi Digartrefedd pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad blynyddol am y gwaith sy’n cael ei wneud i leihau digartrefedd a’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy’n cysgu allan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd bod Digartrefedd yn wasanaeth statudol sy’n parhau i wynebu pwysau sylweddol.   Roedd ffactorau allanol fel yr argyfwng costau byw a chyflwr y farchnad dai yn cynyddu lefelau digartrefedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â digartrefedd ar gyfer pobl Sir y Fflint.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod y gofyniad i gynnig llety a chymorth i bawb sy’n ddigartref ac mewn perygl o orfod cysgu allan yn parhau i fod yn her o ran capasiti ac o safbwynt ariannol.  Mae heriau sylweddol yn y farchnad dai sector preifat yn lleol gyda llai o eiddo ar gael bob blwyddyn a sawl landlord yn gadael y farchnad, sydd yn ei dro yn creu digartrefedd wrth i eiddo gael eu rhoi ar werth a bod gofyn i denantiaid adael, ac ar yr un pryd roedd yn golygu bod llai o eiddo ar gael i gefnogi i atal digartrefedd.

 

Yn sgil newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd (Deddf Tai Cymru 2014) a chyflwyno unfed categori ar ddeg o Angen Blaenoriaethol ar gyfer Cysgu Allan a’r rheiny sydd mewn perygl o gysgu allan, llwyddwyd i gynnal y dull “peidio â gadael neb allan” a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig ac sydd bellach wedi sefydlu’r egwyddor yn gadarn ar sail gyfreithiol fel arfer safonol.

 

O ganlyniad, mae dyletswyddau llety wedi bod yn ddyledus i fwy o bobl ac mae hynny wedi creu cynnydd sylweddol yn y galw ar letyau digartref sydd eisoes dan bwysau ac am gost sylweddol i’r Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnig cipolwg ar ddigartrefedd a phobl sy’n cysgu allan ar gyfer 2023 ac roedd yn cynnwys fersiwn ddrafft o’r Polisi Llety Digartrefedd i’w adolygu a’i gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a chefnogi’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Gwasanaeth Tai ac Atal; a

 

(b)       Chymeradwyo fersiwn ddrafft y Polisi Llety Digartrefedd.