Mater - cyfarfodydd
Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth
Cyfarfod: 13/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 11)
11 Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth PDF 101 KB
Pwrpas: Adolygu’r Argymhellion ar gyfer Gwella, yn ogystal ag ymateb y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit Wales report (Cymraeg), eitem 11 PDF 261 KB
- Enc. 2 - Audit Wales report (English), eitem 11 PDF 612 KB
- Enc. 3 - Organisational response, eitem 11 PDF 98 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth am Berfformiad: Persbectif a Chanlyniadau Defnyddwyr Gwasanaeth
Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad ar gynnydd y camau gweithredu yn sgil adolygiad Archwilio Cymru.
Nodwyd y byddai’r Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor.
Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu’r drafodaeth hon.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr ymateb i’r argymhellion ar gyfer gwella, bod y Pwyllgor yn darparu’r sylwadau canlynol i’r Cabinet:
(a) Mewn perthynas â phenderfyniadau gwasanaeth a pholisi allweddol, yn cynnwys unrhyw newid i wasanaethau, bod adroddiadau’n cynnwys safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth ar y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd; a
(b) Bod y Cabinet yn ystyried cynnwys arolwg blynyddol o farn defnyddwyr gwasanaeth am berfformiad y Cyngor, tua mis Ebrill o bosibl wrth anfon biliau Treth y Cyngor.