Mater - cyfarfodydd

Outcome of Adoption of Local Toilet Strategy

Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 136)

136 Canlyniad Mabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a chyflwyno fersiwn drafft terfynol o’r strategaeth i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad ac egluro y derbyniodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2017, gan dynnu ynghyd nifer o weithredoedd ymarferol ar gyfer gwella a diogelu iechyd.  Roedd Rhan 8 y Ddeddf yn cynnwys Darparu Toiledau ac yn cyflwyno cyfrifoldebau newydd i Awdurdodau Lleol ddarparu Strategaethau Toiledau Lleol.

 

Er mwyn gweithio mewn ffordd strategol wrth ddarparu toiledau ar draws Cymru, mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gorchymyn fod Awdurdodau Lleol yn asesu anghenion a chyfleusterau lleol, a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer eu hardaloedd.

 

Cafodd Strategaeth Toiledau Lleol bresennol Sir y Fflint ei chymeradwyo a’i chyhoeddi ym mis Mai 2019.  Roedd y canllawiau cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu’r polisi bob dwy flynedd o ddyddiad cyhoeddi neu adolygu’r Strategaeth, ac o fewn blwyddyn i etholiad Llywodraeth Leol cyffredinol.

 

Mewn cyfarfod diweddar bu i Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi gefnogi’r adolygiad arfaethedig i’r Strategaeth Toiledau Lleol a chymeradwyo’r dull bwriedig a nodwyd yn yr adroddiad.  Diben yr adroddiad oedd cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cabinet yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol am 12 wythnos ar y Strategaeth Toiledau Lleol diwygiedig.

 

Roedd y strategaeth newydd yn ceisio adlewyrchu uchelgais Arweinyddiaeth y Cyngor i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer y preswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint o fewn cyfnod y strategaeth newydd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell y strategaeth ddiwygiedig a chyflwyno sylwadau ar y toiledau ar draws y sir y mae pobl yn talu i’w defnyddio a fyddai’n cynhyrchu incwm. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y gwaith a wnaed hyd yn hyn ar y canlyniadau o’r holiadur Strategaeth Toiledau Cyhoeddus a’r ymgynghoriad 12 wythnos; a

 

(b)        Bod Strategaeth Toiledau Lleol 2024 Cyngor Sir y Fflint a’r cynllun gweithredu newydd yn y strategaeth yn cael eu cymeradwyo.