Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 i gynnwys Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24

Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 22)

22 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 i gynnwys Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24 pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm Perfformiad Busnes yr adroddiad sy’n nodi dadansoddiad o berfformiad y Cyngor yn erbyn Amcanion Lles, Blaenoriaethau, ac is flaenoriaethau ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28).  Roedd Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn darparu crynodeb o berfformiad hefyd, mewn perthynas â meysydd canolbwyntio eraill y Cyngor, h.y. Gweithgarwch Partneriaeth a Chydweithio, yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, wedi’i gyfuno ag adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.