Mater - cyfarfodydd
Communities for Work
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cabinet (eitem 126)
Cymunedau am Waith
Pwrpas: Ceisio cefnogaeth i'r cynigion ar gyfer Cymunedau am Waith.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y rhaglen Cymunedau am Waith a’r gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer 2024/25.
Roedd yr adroddiad yn argymell strwythur newydd ar gyfer y gwasanaeth a oedd yn fforddiadwy o fewn y gyllideb lai.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r strwythur newydd arfaethedig ar gyfer y gwasanaeth; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gwblhau’r broses ailstrwythuro, gan ddiwygio’r strwythur yn ôl yr angen ar ôl ymgynghori â’r Undebau Llafur a’r gweithwyr, neu, yn dibynnu ar raddfa’r costau ymadael, bydd yn destun ystyriaeth y Cyngor Llawn yn dilyn y cyfnod ymgynghori.