Mater - cyfarfodydd

Void Management

Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 81)

81 Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-

 

·         Nifer yr eiddo mawr gwag

·         Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 227

·         Perfformiad y contractwyr presennol

·         Y prif resymau dros derfynu contractau

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Hughes ar eiddo anodd eu gosod, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth y dylid diwygio’r wybodaeth am gyfanswm yr unedau gwag mewn nodiadau briffio yn y dyfodol i ddangos faint ohonynt oedd yn rhai anodd eu gosod.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ar ystyried cynnwys eiddo anodd eu gosod yn yr Adolygiad o Dai Gwarchod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai eiddo anodd eu gosod yn cael eu rhoi drwy’r matrics a gytunwyd i weld oes oedd modd eu gwella/ailwampio i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru.  Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod eiddo galw isel yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o’r Adolygiad o Dai Gwarchod ac y byddai adroddiad cynnydd ar yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans, os oedd y galw am eiddo yn isel ac roedd arnynt angen mân welliannau, oni ddylai’r Cyngor fynd ati i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl er mwyn gallu dyrannu’r eiddo?  Dywedodd y Prif Swyddog fod y rhan fwyaf o’r eiddo galw isel yn llety gwarchod.  Un o’r dewisiadau i’w hystyried oedd ail-ddynodi’r eiddo ond er mwyn gwneud hyn roedd angen cynnal proses gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod wedi adolygu’r data o’r 12 mis diwethaf ac, ar ôl rhoi ystyriaeth i’r eiddo a oedd yn anodd eu gosod, roedd nifer yr eiddo gwag wedi gostwng o 32 dros y 12 mis diwethaf.  Mynegodd bryderon y byddai’n cymryd oddeutu 7 mlynedd i leihau’r ôl-groniad o eiddo gwag ar y gyfradd bresennol. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i leihau’r nifer yn gynt a pha adnoddau ychwanegol oedd eu hangen i leihau’r ôl-groniad yn sylweddol.  Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr angen i derfynu trefniadau gydag un o’r contractwr a’r posibilrwydd o benodi contractwr arall, ond fe amlinellodd yr angen i sicrhau bod digon o staff ar gael oherwydd dim ond nifer penodol o bobl oedd yn gallu rheoli ac archwilio’r gwaith a oedd yn cael ei gyflawni.  Cytunodd bod nifer yr eiddo gwag yn uchel ond roedd yn disgwyl y byddai’r nifer yn gostwng i lai na 200 erbyn yr haf a dywedodd bod y gwariant ar hyn o bryd rhwng £12,000 a £15,000 ar bob eiddo i sicrhau eu bod yn cydymffurfio cyn iddynt gael eu gosod.   

 

Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Evans, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod  ...  view the full Cofnodion text for item 81