Mater - cyfarfodydd
Void Management
Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 81)
81 Rheoli Cartrefi Gwag PDF 129 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.
Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-
· Nifer yr eiddo mawr gwag
· Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 227
· Perfformiad y contractwyr presennol
· Y prif resymau dros derfynu contractau
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Hughes ar eiddo anodd eu gosod, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth y dylid diwygio’r wybodaeth am gyfanswm yr unedau gwag mewn nodiadau briffio yn y dyfodol i ddangos faint ohonynt oedd yn rhai anodd eu gosod.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ar ystyried cynnwys eiddo anodd eu gosod yn yr Adolygiad o Dai Gwarchod, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai eiddo anodd eu gosod yn cael eu rhoi drwy’r matrics a gytunwyd i weld oes oedd modd eu gwella/ailwampio i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod eiddo galw isel yn cael eu blaenoriaethu fel rhan o’r Adolygiad o Dai Gwarchod ac y byddai adroddiad cynnydd ar yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd David Evans, os oedd y galw am eiddo yn isel ac roedd arnynt angen mân welliannau, oni ddylai’r Cyngor fynd ati i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl er mwyn gallu dyrannu’r eiddo? Dywedodd y Prif Swyddog fod y rhan fwyaf o’r eiddo galw isel yn llety gwarchod. Un o’r dewisiadau i’w hystyried oedd ail-ddynodi’r eiddo ond er mwyn gwneud hyn roedd angen cynnal proses gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod wedi adolygu’r data o’r 12 mis diwethaf ac, ar ôl rhoi ystyriaeth i’r eiddo a oedd yn anodd eu gosod, roedd nifer yr eiddo gwag wedi gostwng o 32 dros y 12 mis diwethaf. Mynegodd bryderon y byddai’n cymryd oddeutu 7 mlynedd i leihau’r ôl-groniad o eiddo gwag ar y gyfradd bresennol. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i leihau’r nifer yn gynt a pha adnoddau ychwanegol oedd eu hangen i leihau’r ôl-groniad yn sylweddol. Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am yr angen i derfynu trefniadau gydag un o’r contractwr a’r posibilrwydd o benodi contractwr arall, ond fe amlinellodd yr angen i sicrhau bod digon o staff ar gael oherwydd dim ond nifer penodol o bobl oedd yn gallu rheoli ac archwilio’r gwaith a oedd yn cael ei gyflawni. Cytunodd bod nifer yr eiddo gwag yn uchel ond roedd yn disgwyl y byddai’r nifer yn gostwng i lai na 200 erbyn yr haf a dywedodd bod y gwariant ar hyn o bryd rhwng £12,000 a £15,000 ar bob eiddo i sicrhau eu bod yn cydymffurfio cyn iddynt gael eu gosod.
Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Evans, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod ... view the full Cofnodion text for item 81