Mater - cyfarfodydd
Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 69)
69 Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio PDF 120 KB
Cyflwyno canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a fydd yn cyfrannu at Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Results of self-assessment, eitem 69 PDF 126 KB
- Enc. 2 - Continuous Development and Improvement Plan, eitem 69 PDF 81 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r hunanasesiad a wnaed ym mis Chwefror yn ystod gweithdy ar-lein yn dilyn llenwi holiaduron. Byddai’r canlyniadau cyffredinol yn bwydo i mewn i baratoadau ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2023/24 ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor.
Yn dilyn diweddariad llafar ar holiaduron a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau, mynegodd y Cadeirydd ei siom gyda'r gyfradd ymateb, yn enwedig gan Gadeiryddion Trosolwg a Chraffu.
Fel yr awgrymwyd gan Brian Harvey, cytunwyd y byddai diweddariadau hanner blwyddyn ar gamau gweithredu yn cael eu hamserlennu.
Wrth gydnabod manteision y broses hunanasesu, dywedodd Sally Ellis fod angen mwy o waith i gryfhau cysylltiadau â Throsolwg a Chraffu. Aeth ymlaen i gyfeirio at y cyfrifoldeb a rennir ar draws aelodaeth y Pwyllgor hwn i sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cwblhau.
Ategwyd ei sylwadau gan y Cadeirydd a ddywedodd y gofynnwyd i swyddogion Gwasanaethau Democrataidd gydgysylltu cyfarfodydd gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu. Ategwyd ei awgrym ar gyfer rhag-gyfarfod anffurfiol yn union cyn cyfarfod mis Mehefin i gydgysylltu cwestiynau a datrys problemau.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried yr adroddiad, mae’r Pwyllgor yn cytuno:
(a) Bod diweddariadau hanner blwyddyn ar y cynllun gweithredu yn cael eu hamserlennu yn y Rhaglen Waith;
(b) Gwahodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd i gyfarfodydd gyda'r Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu; a
(c) Bod rhag-gyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal cyn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin.