Mater - cyfarfodydd

Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus

Cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 70)

70 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus pdf icon PDF 93 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol  blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.   Roedd hyn, ynghyd â'r asesiad allanol a gynhaliwyd yn 2022/23 yn dangos bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r holl ofynion yn gyffredinol.  Roedd gwaith i fod i ddechrau ar oblygiadau’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd i’w gweithredu o 2025.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Glyn Banks ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.