Mater - cyfarfodydd
Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2023/24
Cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 68)
68 Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2023/24 PDF 157 KB
Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2024.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Investment portfolio at 29-02-24, eitem 68 PDF 32 KB
- Enc. 2 - Long term borrowing at 29-02-24, eitem 68 PDF 87 KB
- Enc. 3 - Short term borrowing at 29-02-24, eitem 68 PDF 24 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Chwarter 4 Diweddariad Rheoli Trysorlys 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y diweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2024. Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yn ymwneud â buddsoddiad a benthyca hirdymor a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon o ran cyfraddau llog.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y rhagolwg benthyca ac ystyriaethau allweddol ar gyfer buddsoddiadau.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Glyn Banks am graff i gyd-fynd â’r daenlen benthyca hirdymor, cytunodd swyddogion i adolygu’r fformat ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2023/24.