Mater - cyfarfodydd

Emergency Planning Arrangements

Cyfarfod: 21/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 51)

51 Trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng pdf icon PDF 95 KB

Rhoi gwybodaeth am gynllunio ac ymateb rhag argyfwng, trefniadau EMRT lleol, ac ymateb i ddileu gwasanaeth bws posib.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys gwybodaeth ar y digwyddiad yn ymwneud â phibell dd?r wedi byrstio a’r Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng ehangach yn ôl y gofyn gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol. 

 

            Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng wybodaeth gefndir ar ffurf a swyddogaeth Cynllunio Rhag Argyfwng yn Sir y Fflint.   Roedd hyn yn cynnwys y cyfrifoldebau statudol o dan ddeddfwriaeth a rôl Prif Weithredwr Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS).

 

Cafwyd cyflwyniad yn cynnwys manylion ar y sleidiau canlynol:-

 

·                Pam ein bod yn cynllunio rhag argyfwng

·                Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004

·                Deddfwriaethau eraill

·                Diffiniad o Argyfwng a Digwyddiadau Mawr

·                Beth sy’n gallu achosi argyfyngau?

·                Beth yw Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru

·                Strwythur Cynllunio Rhag Argyfwng Cyngor Sir y Fflint

·                Argyfyngau Diweddar yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru

·                Strwythur y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth

·                Ymateb i Covid

·                Ôl-drafodaeth

·                Prif risgiau yng Ngogledd Cymru

·                E-ddysgu Aelodau Etholedig

           

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y mater llifogydd y bu’n ymwneud ag ef a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu rhif cyswllt i’r Aelodau ar gyfer unigolyn a fyddai’n gallu arwain yr ysgol ar pa un ai i gau ai peidio. 

 

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at bwynt 1.03 yn yr adroddiad a’r ôl-drafodaeth yn dweud y dylai D?r Cymru gael cynllun uwchgyfeirio ar waith a fyddai wedi rhybuddio’r Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng a fyddai wedi cydlynu’r pwyntiau cyswllt.   Ni wnaeth hyn ddigwydd.   Yn dilyn y dysgu ar hyn a sefydlu’r cynllun prawf, dylai hyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol ei bod wedi gweithio gyda chyfoedion cynllunio rhag argyfwng o fewn D?r Cymru i sicrhau bod y cynllun ar waith er mwyn hysbysu’r tîm yn y dyfodol. Sicrhaodd yr Aelodau os byddent yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiad ac nad oeddent yn sicr pwy i gysylltu â nhw y gallent gysylltu â’i thîm am gyngor. 

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â chyllid, dywedodd y Prif Weithredwr fod gan bob Awdurdod Lleol ei dîm ei hun o’r blaen ac fel rhan o’r dull rhanbarthol i gwtogi a chreu cysondeb cafodd ei dynnu at ei gilydd gyda’r tîm yn delio gyda materion yn fwy effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail canran poblogaeth.  Roedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer costau staffio, hyfforddi ar gyfer staff awdurdod lleol a chynhyrchu adroddiadau rheoli perfformiad ac e-Ddysgu. Roedd y tîm hefyd wedi mynychu chwe chyfarfod pwyllgor craffu ar gyfer pob awdurdod lleol gyda’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.                Roedd y tîm wedi gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gwybodaeth i drafod testunau ar gyfer dysgu ac edrych ar yr ôl-drafodaeth o ymosodiad Arena Manceinion yn benodol o amgylch rôl yr Aelodau.   Roedd llawlyfr yn cael ei gynhyrchu i Aelodau a fyddai’n amlinellu’r cyfrifoldebau i Aelodau, Arweinwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod  ...  view the full Cofnodion text for item 51