Mater - cyfarfodydd
Emergency Planning Arrangements
Cyfarfod: 21/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 51)
51 Trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng PDF 95 KB
Rhoi gwybodaeth am gynllunio ac ymateb rhag argyfwng, trefniadau EMRT lleol, ac ymateb i ddileu gwasanaeth bws posib.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix A - NWC-REPS Annual Report, eitem 51 PDF 16 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Trefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chadarnhaodd ei fod yn cynnwys gwybodaeth ar y digwyddiad yn ymwneud â phibell dd?r wedi byrstio a’r Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng ehangach yn ôl y gofyn gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol.
Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng wybodaeth gefndir ar ffurf a swyddogaeth Cynllunio Rhag Argyfwng yn Sir y Fflint. Roedd hyn yn cynnwys y cyfrifoldebau statudol o dan ddeddfwriaeth a rôl Prif Weithredwr Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru (NWC-REPS).
Cafwyd cyflwyniad yn cynnwys manylion ar y sleidiau canlynol:-
· Pam ein bod yn cynllunio rhag argyfwng
· Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
· Deddfwriaethau eraill
· Diffiniad o Argyfwng a Digwyddiadau Mawr
· Beth sy’n gallu achosi argyfyngau?
· Beth yw Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru
· Strwythur Cynllunio Rhag Argyfwng Cyngor Sir y Fflint
· Argyfyngau Diweddar yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru
· Strwythur y Fforwm Lleol Cymru Gydnerth
· Ymateb i Covid
· Ôl-drafodaeth
· Prif risgiau yng Ngogledd Cymru
· E-ddysgu Aelodau Etholedig
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y mater llifogydd y bu’n ymwneud ag ef a gofynnodd a fyddai’n bosibl darparu rhif cyswllt i’r Aelodau ar gyfer unigolyn a fyddai’n gallu arwain yr ysgol ar pa un ai i gau ai peidio.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at bwynt 1.03 yn yr adroddiad a’r ôl-drafodaeth yn dweud y dylai D?r Cymru gael cynllun uwchgyfeirio ar waith a fyddai wedi rhybuddio’r Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng a fyddai wedi cydlynu’r pwyntiau cyswllt. Ni wnaeth hyn ddigwydd. Yn dilyn y dysgu ar hyn a sefydlu’r cynllun prawf, dylai hyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhanbarthol ei bod wedi gweithio gyda chyfoedion cynllunio rhag argyfwng o fewn D?r Cymru i sicrhau bod y cynllun ar waith er mwyn hysbysu’r tîm yn y dyfodol. Sicrhaodd yr Aelodau os byddent yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiad ac nad oeddent yn sicr pwy i gysylltu â nhw y gallent gysylltu â’i thîm am gyngor.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst yngl?n â chyllid, dywedodd y Prif Weithredwr fod gan bob Awdurdod Lleol ei dîm ei hun o’r blaen ac fel rhan o’r dull rhanbarthol i gwtogi a chreu cysondeb cafodd ei dynnu at ei gilydd gyda’r tîm yn delio gyda materion yn fwy effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail canran poblogaeth. Roedd y cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer costau staffio, hyfforddi ar gyfer staff awdurdod lleol a chynhyrchu adroddiadau rheoli perfformiad ac e-Ddysgu. Roedd y tîm hefyd wedi mynychu chwe chyfarfod pwyllgor craffu ar gyfer pob awdurdod lleol gyda’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Roedd y tîm wedi gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gwybodaeth i drafod testunau ar gyfer dysgu ac edrych ar yr ôl-drafodaeth o ymosodiad Arena Manceinion yn benodol o amgylch rôl yr Aelodau. Roedd llawlyfr yn cael ei gynhyrchu i Aelodau a fyddai’n amlinellu’r cyfrifoldebau i Aelodau, Arweinwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod ... view the full Cofnodion text for item 51