Mater - cyfarfodydd

Tackling the Impact of Inequality on Education Outcomes

Cyfarfod: 21/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 52)

52 Mynd i’r afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ddeilliannau Addysg pdf icon PDF 135 KB

Rhoi diweddariad ar sut mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cefnogi ysgolion i fynd i’r afael ag effaith anghydraddoldeb.  Rhoi diweddariad hefyd ar yr adnodd ‘Cofia Ceri’ a’i effaith ar ôl ei ailgyflwyno.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan y Pwyllgor. Roedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith oedd yn cael ei wneud i gefnogi ysgolion i leihau effaith tlodi ar ddysgwyr oedd mewn amgylchiadau mwy dan anfantais

 

            Roedd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion yn cyfeirio at yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mai 2023 oedd yn amlinellu’r heriau cenedlaethol ac ymchwil o amgylch mynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais. Roedd yr Aelodau wedi gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y camau a’r cynnydd ac roedd yr adroddiad hwn yn amlygu’r prif agweddau.  Roedd Adran 1.01 yn cyfeirio at y ffocws ar dlodi, edefyn oedd yn rhedeg drwy’r blaenoriaethau gwella strategol o fewn Cynllun y Cyngor. Roedd Adran 1.02 yn amlinellu’r data perfformiad blaenorol ar y deilliannau lleol a chenedlaethol gydag Adrannau 1.03 i 1.06 yn cyfeirio at y ffocws ar dri blaenoriaeth o fewn y Cynllun Corfforaethol.   Roedd yr Awdurdod wedi llwyddo i gynnwys pob ysgol uwchradd yn y peilot ar gyfer prydau ysgol am ddim ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, y peilot a ariannwyd yn genedlaethol a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2023.   Roedd yna ganmoliaeth i’r rhwydwaith cyfnewid gwisg ysgol oedd yn bodoli ar draws y Sir a’r ymarfer mapio oedd wedi cael ei arwain gan gydweithwyr yn y tîm Refeniw a Budd-daliadau. Roedd adran 1.06 yn cyfeirio at y rhaglen bwyd a hwyl a ddarparwyd dros y 5 mlynedd ddiwethaf a chynhaliwyd yn ystod gwyliau’r haf gyda 300 o blant yn cymryd rhan y llynedd.   Roedd Adran 1.07 yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar sut roedd ysgolion yn defnyddio’r adnoddau gan y Comisiynydd Plant a’r adnodd “Gwirio gyda Ceri’ a hefyd yn cynnwys adborth gan ysgolion.   Roedd Adran 1.08 yn amlygu sut yr oedd ysgolion yn gwneud defnydd o’r arian Grant Datblygu Disgyblion (GDD) gydag enghreifftiau wedi eu cynnwys o adroddiadau Arolwg Estyn yn ddiweddar.  Roedd Adran 1.09 o’r adroddiad yn cyfeirio at y prosiectau ysgolion bro gydag arian grant Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i dargedu meysydd ble roedd ei angen fwyaf.   Roedd Adran 1.10 yn amlinellu’r gwaith gyda gwasanaethau canolog o fewn y portffolio yn darparu cyngor parhaus i deuluoedd i’w galluogi nhw i gael mynediad i fudd-daliadau a gwasanaethau priodol yr oedd ganddynt hawl iddynt.

 

            Roedd y Cadeirydd yn falch o weld faint o fentrau yr oedd ysgolion wedi eu gweithredu er budd y myfyrwyr. Roedd y Cadeirydd hefyd yn atgoffa’r Pwyllgor bod llythyr wedi cael ei anfon i bob ysgol ar ran y Pwyllgor, yn annog y defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion.

 

            Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn cyfeirio at ei ymweliad diweddar i Ganolfan Westwood i dderbyn cyflwyniad gan Gail Bennett o fewn Gwasanaethau Plant ar y ffordd mae ymennydd plentyn yn datblygu. Gwnaed y pwynt os byddai plentyn yn derbyn y cymhelliant cywir yn yr oed cywir, roedd eu hymennydd yn datblygu mewn ffordd gadarnhaol, os nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 52