Mater - cyfarfodydd
Council Fund Budget 2024/25 - Final Closing Stage
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 81)
81 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2024/25 - Y Cam Cau Olaf PDF 80 KB
Pwrpas: I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2024/25 ar argymhelliad y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Fund Budget 2024/25 - Final Closing Stage, eitem 81 PDF 659 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2024/25 - Y Cam Cau Olaf
Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:
· Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon
· Y daith hyd yma...
· Newidiadau pellach i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25
· Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2024/25
· Datrysiadau Cyllidebol
o Cyllid Allanol Cyfun
o Gostyngiadau i Gostau Portffolios
o Gostyngiadau i Gostau Ysgolion
o Gostyngiadau Cost Eraill
o Treth y Cyngor
o Datrysiadau a Gynigiwyd yn Derfynol
o Dewis Arall o ran y Gyllideb (a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol)
· Treth y Cyngor 2024/25
· Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol
· Risgiau Agored yn 2024/25
· Cronfeydd Wrth Gefn
· Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi
· Edrych i’r Dyfodol
· Y Camau Nesaf ac Amserlenni
Roedd y cyflwyniad yn nodi newidiadau ers y sefyllfa a adroddwyd fis Ionawr a oedd wedi ystyried effaith ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru. Wedi dwy sesiwn friffio i’r Aelodau ac wedi i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried cynigion lleihau costau ychwanegol, roedd gwaith wedi parhau i adolygu’r sefyllfa gyffredinol ynghyd â chyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth y DU. Cafwyd manylion yngl?n â chanlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad i’r Cabinet gyda datrysiadau arfaethedig terfynol i amlinellu sut y gallai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25. Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd blynyddol cyffredinol o 8% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ac 1.1% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol. Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 9.1% a roddai arenillion net ychwanegol cyffredinol o £9.072 miliwn yn 2024/25. Cafodd dadansoddiad o’r cynnig hwn a dewis a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol - a oedd yn gofyn am ddefnyddio’r Cyllid Allanol Cyfun ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gyda chynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o 9.0% - ei egluro yn y cyflwyniad.
Amlygwyd nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2024/25 ynghyd â diweddariad ar gronfeydd wrth gefn gan gynnwys atgoffa yngl?n â phwysigrwydd meithrin a chynnal cronfeydd wrth gefn i ddiogelu yn erbyn risgiau agored ac ar gyfer y tymor canolig yng ngoleuni’r setliadau llai a ragwelir ar gyfer 2025/26 a 2026/27.
Daeth y Prif Weithredwr â’r cyflwyniad i ben drwy adlewyrchu ar y risgiau cynyddol a’r heriau sy’n codi o’r setliad gwael gan Lywodraeth Cymru a’r angen am reolaeth ariannol gynyddol yn 2024/25 i ymateb i’r setliadau ariannol llai a ragwelir ar gyfer y dyfodol, gyda mwy o bwyslais ar drawsnewid gwasanaethau a lleihau cost.
Fel Arweinydd y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i bawb am eu mewnbwn ar y sefyllfa heriol o ran y gyllideb ac adleisiodd bryderon swyddogion am sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn y dyfodol. Yn dilyn cyfarfod y Cabinet a’r trafodaethau gyda’r Gr?p Annibynnol yn gynharach yn ystod y dydd, fe gynigiodd y gyllideb amgen a nodwyd ym mharagraff 1.25 yr adroddiad a oedd yn cynnwys cynnydd cyffredinol blynyddol ... view the full Cofnodion text for item 81