Mater - cyfarfodydd
Strategic Equality Plan Annual Report 2022/23
Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 132)
132 Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23 PDF 98 KB
Pwrpas: Cyflwyno adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Strategic Equality Plan Annual Report 2022/23, eitem 132 PDF 1008 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol pedair blynedd ym mis Ebrill 2020, gan gyflawni gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Ychwanegodd y Swyddog Gweithredol Strategol mai nod yr amcanion cydraddoldeb oedd mynd i’r afael â’r materion mwyaf sylweddol a meysydd o anghydraddoldeb y mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a thueddfryd rhywiol) yn eu hwynebu.
Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb yn cyflwyno dyletswyddau penodol i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Roeddent yn cynnwys gofyniad i gyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n rhaid i’r adroddiad amlinellu’r cynnydd o ran diwallu Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chyflawni’r amcanion cydraddoldeb. Roedd yr adroddiad blynyddol ynghlwm â’r adroddiad ac yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2022/2023.
PENDERFYNWYD:
(a) nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn i gyflawni’r dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb; a
(b) Chefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2022/23, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.