Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2024/25

Cyfarfod: 01/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 42)

42 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25 pdf icon PDF 127 KB

Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai hwn yn cael ei gyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer ystyriaeth.  Roedd diweddariadau rheolaidd ar gyllideb heriol y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi cael eu darparu i Aelodau ers yr haf diwethaf ac fe gyhoeddwyd setliad Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr.  Myfyriodd ar gynnydd siomedig y Cyngor o 2.2% o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1% a’r crynodeb o’r prif benawdau a adroddwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr a oedd yn cynnwys y bwlch o £12.946m a oedd yn weddill. O ganlyniad, gofynnwyd i bob portffolio ail-edrych ar ffyrdd posib i leihau cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu tuag at gau’r bwlch hwnnw.  Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am y cynigion ychwanegol ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r cynigion presennol ar gyfer Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.

 

            Gwnaeth y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sylw ar y ddwy elfen yr oedd yn rhaid eu hystyried, cyllideb portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, gyda phwynt 1.05 yn yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb.  Diolchodd i’r Uwch Reolwyr am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud yn craffu ar bob llinell o’u cyllidebau gan ddweud nad oedd yn hawdd adnabod arbedion effeithlonrwydd tra’n gwarchod uniondeb y gwasanaeth ac yn galluogi’r portffolio i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Cyfeiriodd at y sgoriau COG ar gyfer y gwasanaethau hyn ac fe dynnodd sylw at y Gwasanaeth Ieuenctid a oedd â sgôr Oren.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor ar gynigion cyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Gostyngiadau i Gyllideb y Portffolio Addysg ac Ieuenctid

 

            Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst ei fod yn credu, oherwydd yr anawsterau ariannol a achoswyd i’r Cyngor gan gyllideb Llywodraeth Cymru, y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o 7.5% er mwyn i Aelodau allu penderfynu pa rai o’r arbedion posibl hynny y gellid eu derbyn neu’u gwrthod ac y byddai gan yr Aelodau ddewis a’r gallu i wneud penderfyniad gwybodus.  Dywedodd bod arbedion posibl o £303,000 wedi cael eu nodi o fewn Portffolio Addysg ac Ieuenctid ac eithrio ysgolion, ond nid oedd hyn yn cyfateb i arbediad o 7.5% a gofynnodd i’r Swyddogion egluro hyn.  Cyfeiriodd hefyd at y sefyllfa derfynol 8 mis ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, lle bu arbedion o £367,000 a gofynnodd sut yr oedd y swm hwn wedi cael ei ganfod oherwydd bod hyn yn fwy na’r arbedion arfaethedig ar gyfer cyllideb 2024/25.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yn cyfateb i 7.5% o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer y Portffolio ond fe esboniodd y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o hyd at 7.5% a bod hwn yn darged uchelgeisiol.  Byddai unrhyw arbedion pellach uwchben y rhai hynny a nodwyd yn peryglu darpariaeth gwasanaethau statudol a gallu’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau statudol.

 

            O ran y £367,000 o arbedion a nodwyd yn ystod y flwyddyn, dywedodd y Prif Swyddog bod y swm hwn wedi deillio  ...  view the full Cofnodion text for item 42