Mater - cyfarfodydd

Common Housing Register (Single Access Route to Housing - SARTH)

Cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 72)

72 Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai) pdf icon PDF 175 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad blynyddol am Gofrestr Tai Cyffredin.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i amlinellu lefelau presennol yr angen am dai ledled y Sir a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol sydd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un raddfa â lefel yr angen am dai sy’n gyffredin yn ein cymunedau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal bod yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn bartneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, sy’n gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.  Roedd y gwasanaeth i ymgeiswyr yn cynnwys asesiad brysbennu tai, brysbennu atebion tai ar gyfer unigolion sy'n datgan eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac amrywiaeth eang o gyngor am ddewisiadau tai.  Roedd y gwasanaeth hefyd yn rheoli’r holl ymgeiswyr a dderbynnir ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ôl nodi angen â thystiolaeth amlwg o ran tai.  Dim ond yr ymgeiswyr hynny ag angen o ran tai oedd yn cael eu derbyn ar y Gofrestr Tai, ond elwodd yr holl ymgeiswyr ar gyngor am ddewisiadau tai.

 

            Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y cyfeiriad Polisi ar gyfer dyraniadau Tai Cymdeithasol yn y dyfodol, fel y gwelir yn yr adroddiad, gan ddweud bod Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru wedi cau yn ddiweddar.  Wrth edrych yn benodol ar ddyraniadau a chymhwysiad tai cymdeithasol, roedd y Papur Gwyn yn ystyried darn o waith ymchwil, sef ‘Dyraniadau:Deall mwy, yng nghyd-destun digartrefedd yng Nghymru’, a oedd yn ceisio deall perfformiad dyraniadau tai cymdeithasol mewn perthynas ag atal a lliniaru digartrefedd.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal at Anghenion o ran Tai, fel y nodir yn yr adroddiad, gan ddweud bod y gofrestr tai cymdeithasol yn cynyddu ac yn sgil hynny, bod amseroedd aros am eiddo yn mynd yn hirach.  Ar ddiwedd Chwarter Cyntaf cyfnod 2020/21, roedd 1,816 o aelwydydd ar y Gofrestr Tai Cyffredin.  Fel y dengys y siart yn yr adroddiad, roedd y galw wedi tyfu yn y blynyddoedd dilynol, a’r nifer presennol o aelwydydd cymwys ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ddiwedd Trydydd Chwarter 2023/2024 oedd 1,983, a hynny ym mis Rhagfyr 2023.  Roedd dadansoddiad o’r data i’w weld yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd arolwg boddhad blynyddol bellach wedi’i gwblhau ar gyfer y Gwasanaeth

Tai Cyffredin, ac roedd prif ganfyddiadau’r arolwg i’w gweld ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Gwahoddwyd yr holl ymgeiswyr i gymryd rhan yn yr arolwg, a chafwyd cyfanswm o 210 o ymatebion.   Cadarnhaodd y prif ddata boddhad bod 51% o ymgeiswyr, wrth gysylltu gyntaf â’r Tîm Cofrestr Tai a Chyngor, yn teimlo bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn rhagorol (17%) neu’n dda (34%).

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin am y stoc tai oedd ar gael ar draws y Cyngor, gan gynnwys gan bartneriaid Cymdeithasau Tai, cytunodd yr Uwch Reolwr Atal i ddosbarthu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester, mewn perthynas â glanhau’r gofrestr, pa mor aml  ...  view the full Cofnodion text for item 72