Mater - cyfarfodydd
North East Wales (NEW) Homes Business Plan
Cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 74)
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru
Pwrpas: Ystyried Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (74/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (74/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (74/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Rhaglenni Tai Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, a oedd yn nodi elfennau allweddol strategaeth ddatblygu arfaethedig y cwmni. Cymeradwywyd y Cynllun Busnes gan Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru fel dogfen gynllunio strategol yn ei gyfarfod ar 11 Ionawr 2024.
Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth Rhaglenni Tai i gwestiynau gan yr Aelodau am safle Depo Canton a chyllid a grantiau Llywodraeth Cymru.
Cynigiodd y Cynghorydd Kevin Rush yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2024/2053.