Mater - cyfarfodydd
Minimum Revenue Provision - 2024/25 Policy
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 84)
84 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25 PDF 85 KB
Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Minimum Revenue Provision - 2024/25 Policy, eitem 84 PDF 193 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25
Cofnodion:
Fe gafodd Aelodau adroddiad er mwyn cymeradwyo’r polisi blynyddol ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion yn ddarbodus.
Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor:-
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:-
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(c) Cymeradwyo’r Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael ei ystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn:-
· Na wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnyddio.
· Unwaith y bydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifo, fel derbyniadau cyfalaf, a dim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled y gellir defnyddio’r rhain. Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth ... view the full Cofnodion text for item 84