Mater - cyfarfodydd
Minimum Revenue Provision - 2024/25 Policy
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cabinet (eitem 121)
121 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25 PDF 193 KB
Pwrpas: Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion. Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac esboniodd fod rhaid i awdurdodau lleol osod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mhob blwyddyn ariannol.
Bob blwyddyn, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol neilltuo rhywfaint o adnoddau
refeniw fel darpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled.
Mae rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth isafswm refeniw pob blwyddyn y mae’n ei hystyried yn ddoeth. Nid oedd y rheoliadau eu hunain yn diffinio darpariaeth ‘darbodus’. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau sy'n cynnig argymhellion i awdurdodau lleol ar ddehongli'r telerau a gofynnir i awdurdodau baratoi datganiad blynyddol o'u polisi ar wneud isafswm darpariaeth.
Roedd y Cyngor, fel rhan o strategaeth y gyllideb, wedi cynnal adolygiadau manwl o’i bolisi MRP yn 2016/17 a 2017/18 ac wedi diwygio’r polisi o ganlyniad.
Nid oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2024/25.
Cyflwynwyd y Polisi i Aelodau ar y cyd ag adroddiad gosod cyllideb 2024/25.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Gronfa'r Cyngor (CF):
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(b) Bod y canlynol yn cael ei gymeradwyo a'i argymell i'r Cyngor Sir ar gyfer dyled heb ei thalu’r Cyfrif Refeniw Tai:
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.
· Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
(c) Bod yr Aelodau yn cymeradwyo ac yn argymell ... view the full Cofnodion text for item 121