Mater - cyfarfodydd

Responsible Individuals Annual Report

Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 146)

146 Adroddiad Blynyddol ar Unigolion Cyfrifol pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar berfformiad y gwasanaethau darparwyr mewnol mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn disgrifio rôl yr Unigolyn Cyfrifol, gofynion y rôl a sut yr oedd gwasanaethau rheoledig mewnol wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf.

 

Roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn ofyniad statudol ar gyfer yr holl sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau gofal.  Ynghyd ag Unigolyn Cyfrifol yn ymweld â’r holl wasanaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn, mae’n rhaid iddynt gasglu tystiolaeth i fesur gwasanaethau yn erbyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016). Roedd y gwasanaethau dan sylw wedi’u nodi yn yr adroddiad.  

 

Roedd y dull o gasglu tystiolaeth yn cynnwys archwilio ffeiliau, ymweliadau iechyd a diogelwch, cadw cofnodion, diogelu, cyfarfodydd tîm ac ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd.  Roedd hefyd yn defnyddio arolygon gan Arolygiaeth Gofal Cymru.I grynhoi roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn adrodd lefel uchel o hyder ym mhob maes o’r gwasanaeth.  Roedd safon y gofal yn uchel ym mhob man ac roedd y staff wedi’u hyfforddi i safon uchel.  Roedd nifer o feysydd sydd angen eu hystyried mewn perthynas â risgiau ar gyfer gwasanaethau darparwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle y gofynnodd yr Aelodau am gael ailddechrau ymweliadau rota.  

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chymeradwyo’r adroddiad.