Mater - cyfarfodydd
Pay Policy Statement for 2024/25
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 85)
85 Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2024/25 PDF 88 KB
Pwrpas: Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r deuddegfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Pay Policy Statement for 2024/25, eitem 85 PDF 406 KB
- Enc. 2 for Pay Policy Statement for 2024/25, eitem 85 PDF 322 KB
- Enc. 3 for Pay Policy Statement for 2024/25, eitem 85 PDF 97 KB
- Enc. 4 for Pay Policy Statement for 2024/25, eitem 85 PDF 547 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2024/25
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) y Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2024/25 i alluogi cyhoeddi o fewn y terfynau amser statudol. Dyma’r deuddegfed datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan y Cyngor ac mae’n adlewyrchu trefniadau presennol a threfniadau’n ymwneud â thâl, gan ymgorffori diweddariadau fel nodir yn yr adroddiad. Cyn cyhoeddi, byddai cyflwyno’r Archwiliad Cyflog Cyfartal yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu mai dyma’r wythfed archwiliad cyflog.
Croesawodd y Cynghorwyr Chris Bithell a Dennis Hutchinson gamau gweithredu i leihau’r bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ymhellach lle roedd gwaith o’r un gwerth yn cael ei wneud.
Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Datganiad drafft ar Bolisi Tâl ar gyfer 2024/25; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i ddiweddaru Datganiad Polisi Tâl 2024/25 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.