Mater - cyfarfodydd
Information Rights Compliance
Cyfarfod: 07/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 83)
83 Cydymffurfiaeth Hawliau Gwybodaeth PDF 153 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth ar fonitro perfformiad yn erbyn gofynion Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad gyda’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chydymffurfiaeth â thargedau ymateb ar gyfer Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Hawliau Unigolion yn chwe mis cyntaf 2023/24. Yn ôl cais y Cynghorydd Jason Shallcross, bydd y data a ddangosir ym mharagraff 1.03 yr adroddiad yn adlewyrchu’r canran ar gyfer bob Sir. Nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei drefnu ddwywaith y flwyddyn ar Raglen Waith y Pwyllgor. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwelliannau a wnaed hyd yn hyn ers 2020/21; a (b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r camau arfaethedig i wella perfformiad yn y meysydd hynny lle mae amseroedd ymateb yn is na’r cyfartaledd gofynnol o 80%. |