Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25
Cyfarfod: 20/02/2024 - Cabinet (eitem 120)
120 Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25 PDF 199 KB
Pwpras: Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2024/25 i'w argymell i'r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Treasury Management Strategy 2024/25, eitem 120 PDF 504 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ddrafft 2024/25 i'w hargymell i'r Cyngor.
Roedd yr adroddiad wedi'i ystyried yn fanwl gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 24 Ionawr 2024 ac nid oedd unrhyw faterion penodol i'w dwyn i sylw'r Cabinet.
Roedd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024/25 wedi'i hatodi i'r adroddiad i'w hadolygu ac roedd crynodeb o'r pwyntiau allweddol wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Ategwyd yr adroddiad gan hyfforddiant rheoli’r trysorlys a ddarparwyd i Aelodau’r Cyngor ar 8 Rhagfyr 2023.
PENDERFYNWYD:
Argymell Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2024/25 i'r Cyngor Sir i'w chymeradwyo.