Mater - cyfarfodydd
Polisi Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 111)
111 Polisi Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 131 KB
Pwrpas: Rhoi trosolwg o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i Bolisi Rheoli Tai a Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn ymateb i Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Housing Management and Anti-Social Behaviour Policy, eitem 111 PDF 155 KB
- Enc. 2 for Housing Management and Anti-Social Behaviour Policy, eitem 111 PDF 183 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheoli tai effeithiol ac effeithlon oedd yn adlewyrchu arfer gorau, oedd yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn amddiffyn hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau’r risg i’r Cyngor am beidio cydymffurfio gyda deddfwriaeth briodol.
Y Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016, a ddaeth i rym o’r 1af
Rhagfyr 2022, dyma’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Roedd
ddeddfwriaeth newydd wedi newid y ffordd yr oedd pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.
Nod y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u
rhwymedigaethau. Roedd y Ddeddf mewn grym yn rhannol bellach, at ddibenion gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau.
Roedd cyflwyno’r newidiadau sylweddol a ddaeth yn sgil y Ddeddf yn golygu bod angen adolygu a drafftio polisïau a gweithdrefnau diwygiedig. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r Polisi Rheoli Tai a’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Roedd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) yn egluro yr adroddwyd ar y polisi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Thai ddwywaith ac roedd y sylwadau a dderbyniwyd ar faterion penodol. Roedd sylwadau ar y polisi yn ymwneud â chanllawiau gweithdrefnol.
PENDERFYNWYD:
Bod y polisïau Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael eu cymeradwyo.