Mater - cyfarfodydd

Contract Fflyd

Cyfarfod: 09/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 65)

Contract Fflyd

Pwrpas:  Darparu diweddariad i’r Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir o ran y trafodaethau a gynhaliwyd gyda’r contractwr, y wybodaeth gyfreithiol a gafwyd a’r Dewisiadau ar gael ar gyfer yr Awdurdod.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd sawl cwestiwn gan yr Aelodau a darparwyd atebion gan y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd. Cytunwyd y byddai’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yn amlygu pryderon y Pwyllgor yng nghyfarfod y Cabinet.

 

Cynigodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Lloyd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Coggins-Cogan y dylid ystyried y mater hwn yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint er mwyn gweld os dylid dod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol nad oedd ganddo unrhyw broblem gyda’r mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint.  Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai’n gofyn am gyngor gan y swyddog cyfreithiol yngl?n â hyn ar ôl y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am gontract y fflyd a’r cynnig i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ym mis Ionawr 2024;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewis a ffefrir i ddod â threfniadau gweithredu a rheoli’r fflyd yn ôl yn fewnol i sicrhau parhad di-dor y gwasanaeth hanfodol hwn; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi cymeradwyaeth gan y Cabinet ar fynd i gontract tymor byr arall gyda’r cyflenwr presennol am ddim mwy na 12 mis, er mwyn rhoi amser i’r Cyngor wneud trefniadau eraill.