Mater - cyfarfodydd

Uchelgais Gogledd Cymru Adroddiad Ch2

Cyfarfod: 09/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 62)

62 Uchelgais Gogledd Cymru Adroddiad Ch2 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:  Derbyn Adroddiad Perfformiad Ch2 gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn amlinellu Adroddiad Perfformiad Bargen Dwf Gogledd Cymru Chwarter 2 (Gorffennaf - Medi 2023-24).  Nodwyd bod £120 miliwn wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi cyfres o brosiectau cyfalaf.  Darparodd y tîm o Uchelgais Gogledd Cymru Adroddiad Blynyddol ar gynnydd gyda diweddariadau chwarterol yn cael eu darparu gan y Prif Swyddog i’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr aelodau at bwynt 1.4.2 yn yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r newidiadau i’r prosiectau a oedd wedi gadael. Roedd hyn wedi galluogi chwe phrosiect newydd i gael gwahoddiad i ymuno â’r Fargen Dwf. Roedd pwynt 1.4.4 yn yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y pum prosiect coch yn Chwarter 2 ac fe amlygodd y Prif Swyddog y materion traffig yn gysylltiedig â phrosiect Porth Wrecsam. Yna, cyfeiriodd at adfer tir ym Mhrosiect Harbwr Caergybi a chaniatáu'r Gorchymyn Diwygio Harbwr gan Lywodraeth Cymru. Eglurwyd bod Atodiad A yr adroddiad yn darparu crynodeb o bob un o’r prosiectau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers sawl cwestiwn, ac fe gawsant eu hateb gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).

 

Mewn ymateb i’r pwynt yngl?n â chydymffurfiaeth safle yn Warren Hall, eglurwyd bod angen Briff Datblygu i osod y paramedrau ar gyfer y safle. Cyfeiriodd at yr Adroddiad Diogelwch Meysydd Awyr a dderbyniwyd ym mis Hydref ac a oedd wedi codi pryderon yngl?n â llwybr disgyn awyrennau mwy wrth iddynt hedfan i mewn i Frychdyn.  Roedd yr adroddiad wedi cadarnhau nad oedd angen gwneud unrhyw waith ar y pridd yn Warren Hall a oedd yn gam cadarnhaol tuag at symud y datblygiad hwn yn ei flaen.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn ar effaith y CDLl yn Warren Hall, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hyn hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen. Amlinellodd sut y byddai’r Gr?p Strategaeth Cynllunio yn dwyn ymlaen y Briff Cynllunio Datblygu atodol ar gyfer y safle ac yna’n gwthio Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r safle hwn.

 

Wrth ymateb i’r pwynt ar y statws COG yn erbyn buddsoddiad a risg, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y risgiau wedi’u hadlewyrchu yn y proffil risgiau cryno ac yn ymwneud yn bennaf â chael caniatâd. Cyfeiriodd yr Aelodau at bwynt 1.4.4 yn yr adroddiad a oedd yn darparu manylion am y pum prosiect a oedd â statws coch ar hyn o bryd a darparodd fwy o wybodaeth am hyn.

 

Mewn ymateb i’r pwynt craffu, eglurodd y Prif Swyddog bod Uchelgais Gogledd Cymru nid yn unig yn cael ei graffu gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ond hefyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilwyr ar ran Llywodraeth y DU gydag adolygiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn. 

 

            Mewn ymateb i’r sylw a wnaed mewn perthynas â’r dyddiadau Cymraeg yn y fersiwn Saesneg o’r ddogfen, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i adrodd hyn yn ôl i dîm Uchelgais Gogledd  ...  view the full Cofnodion text for item 62