Mater - cyfarfodydd
Polisi Goleuadau Stryd
Cyfarfod: 09/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 63)
63 Polisi Goleuadau Stryd PDF 137 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a chyflwyno fersiwn drafft terfynol o’r strategaeth i’w mabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Streetlighting Policy, eitem 63
PDF 103 KB
- Appendix 2 - Streetlighting Policy, eitem 63
PDF 404 KB
- Appendix 3 - Streetlighting Policy, eitem 63
PDF 287 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Goleuadau Stryd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y Rheolwr Gweithredol (Y Gogledd a Goleuadau Stryd), Darrell Jones, i’r cyfarfod. Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr adolygiad cyfnodol o’r Polisi yn unol â newidiadau mewn galw.
Darparodd y Rheolwr Gweithredol drosolwg o’r Polisi a Manylebau Goleuadau Stryd, Goleuadau Traffig ac Offer Cysylltiedig. Roedd wedi’i ddiweddaru ers y polisi y cytunwyd arno’n flaenorol ac yn ymwneud â mabwysiadu’r isadeiledd a rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y Cyngor. Darparwyd gwybodaeth am y polisi, gosod offer a safonau, a oedd yn cynnwys goleuadau stryd, arwyddion a goleuadau traffig ac eitemau allanol eraill, megis mannau gwefru cerbydau trydan a diffibrilwyr, nad oeddent wedi cael eu cynnwys yn flaenorol. Roedd y Polisi a’r Manylebau yn awr yn cynnwys yr holl safonau perthnasol.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau:-
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n ag Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol bod yr arwyddion 30mya wedi cael eu diffodd a’u gorchuddio. Roeddent yn cael eu cynnal yn drydanol ac yn strwythurol ond nid oeddent yn cael eu defnyddio.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ar golofnau ac asedau goleuo, adroddodd y Rheolwr Gweithredol ar hyd oes amrywiaeth o isadeiledd a oedd yn bresennol yn y sir. Cynhaliwyd prosiect i newid y llusernau flynyddoedd yn ôl ond roedd y problemau yn awr yn ymwneud â’r isadeiledd a’r colofnau. Darparwyd gwybodaeth am waith y cwmni allanol sy’n ymgymryd â rhaglen dreigl o archwiliadau ynghyd ag esboniad o’r ymweliadau â safleoedd goleuadau traffig a gynhelir bob blwyddyn oherwydd eu hyd oes byrrach.
Mewn ymateb i’r cwestiwn am Archwiliadau Gyda’r Nos, cytunwyd bod gwall yn y ddogfen ac y dylid cywiro hyn. Cynhaliwyd y rhain bob 28 diwrnod yn ystod misoedd yr haf a phob 14 diwrnod yn ystod misoedd y gaeaf. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers yngl?n â chynnwys meini prawf yn y Polisi, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod y cyfnod o 10 diwrnod ar gyfer archwilio safleoedd y Gwasanaethau Stryd gyda’r nod o allu cynnal y rhain mor gyflym â phosibl. Mewn rhai achosion megis DNO (Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu) (Scottish Power), pe bai’n cael ei nodi fel nam yn gysylltiedig â’r prif gyflenwad, byddai’r wybodaeth wedyn yn cael ei phasio ymlaen i Scottish Power a oedd yn dilyn Rheoliadau OFGEM o ran atgyweirio’r golau. Cyhoeddwyd hyn ar wefan y Cyngor ac Infonet.
O ran y cwestiwn yngl?n â goleuo rhan o’r nos, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei dreialu ar sawl achlysur mewn ardaloedd yn Sir y Fflint ac roedd yn dal ar waith mewn rhai ardaloedd. Roedd ymgynghoriadau ac asesiadau wedi cael eu cynnal gydag aelodau lleol, gwasanaethau brys a grwpiau lleol a darparwyd amlinelliad o’r arbedion y gellid eu cyflawni a’r ardaloedd y gellid eu hystyried ar gyfer goleuo rhan o’r nos.
Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n â gostwng goleuadau, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei drafod yn y polisi blaenorol i ostwng golau llusernau o 30%, nid oedd hyn yn cynnwys ardaloedd diamddiffyn ... view the full Cofnodion text for item 63