Mater - cyfarfodydd
Cambrian Aquatics
Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 152)
152 Cambrian Aquatics
Pwrpas: Cyflwyno adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, Cambrian Aquatics.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â Cambrian Aquatics.
Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac fe gyflwynwyd yr adborth i’r Cabinet.
Amlinellwyd y manylion yngl?n â’r bwlch ariannol ochr yn ochr â’r gofyniad am fuddsoddiad cyfalaf.
PENDERFYNWYD:
Bod hyd at uchafswm o £150,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer y diffyg a ragwelir yn 2024/25 yn amodol ar barodrwydd Cambrian Aquatics i redeg y pyllau a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ddim hwyrach na mis Rhagfyr 2024 cyn gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26.