Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru – Cynllun Lleihau Carbon
Cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet (eitem 137)
137 Adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru – Cynllun Lleihau Carbon PDF 171 KB
Pwrpas: Cydnabod canlyniad adroddiad Archwilio Cymru a chefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’u hargymhelliad.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Audit Wales Assurance & Risk Assessment Report – Carbon reduction plan, eitem 137 PDF 260 KB
- Enc. 2 for Audit Wales Assurance & Risk Assessment Report – Carbon reduction plan, eitem 137 PDF 59 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru – Cynllun Lleihau Carbon
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd yn 2019 bod Llywodraeth Cymru wedi galw ar y Sector Cyhoeddus i fod yn garbon sero net erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwnnw, roedd y Cabinet wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2019 i gyflwyno Strategaeth Newid Hinsawdd a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon sero net erbyn 2030.
Cafodd y Strategaeth Newid Hinsawdd a’r cynllun gweithredu eu mabwysiadu gan y Cyngor ym mis Chwefror 2022. Roedd y strategaeth yn nodi ymrwymiad, uchelgais, camau gweithredu a thargedau cerrig milltir i gyflawni ein nod carbon sero net.
Ym mis Gorffennaf 2022, cyflwynodd Archwilio Cymru adroddiad a oedd yn ceisio arweinyddiaeth gref yn y sector cyhoeddus i leihau allyriadau carbon yng Nghymru. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd archwiliadau unigol o bob ymrwymiad a cham gweithredu carbon y Cyngor yn erbyn canfyddiadau’r adroddiad ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan.
Diben yr adroddiad oedd darparu trosolwg o adolygiad yr Asesiad Sicrwydd a Risg a’r camau gweithredu a gyflawnwyd hyd yma i fynd i’r afael â’r argymhelliad.
Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ac i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad adroddiad Archwilio Cymru, ymateb y Cyngor iddo ac yn cefnogi’r camau a gymerir i fynd i’r afael â’r argymhelliad.