Mater - cyfarfodydd
Olrhain Gweithred
Cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 59)
59 Olrhain Gweithred PDF 80 KB
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg ddiweddariad ar gamau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Yngl?n â chamau gweithredu hirsefydlog, byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad nesaf.
Roedd y Cynghorydd Andrew Parkhurst yn cyfeirio at yr ymateb i’w ymholiad ar yr ymchwiliad i honiadau dienw a drafodwyd ym mis Tachwedd 2023 a gofynnwyd pam bod swyddogion wedi dewis cysylltu ag un sefydliad penodol, o ystyried yr ystod o rai eraill y gellir cysylltu â nhw.
Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn cytuno y byddai’n ceisio dilyn ymhellach, fodd bynnag, roedd y swyddog cyfrifol am archwilio wedi gadael y Cyngor.
Roedd y Cynghorydd Parkhurst yn cydnabod sensitifrwydd dan sylw ac yn awgrymu trafodaeth bellach i archwilio’r mater ymhellach mewn sesiwn gaeedig. Yn ystod trafodaeth, roedd y Cadeirydd yn awgrymu bod y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cael adolygu’r ymholiad ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf, roedd yr Aelodau eraill yn cefnogi hynny. Pan ofynnwyd gan y Cynghorydd Glyn Banks, roedd y Cynghorydd Parkhurst yn cytuno gyda’r dull hwn a’r posibilrwydd y gellir trafod hyn mewn sesiwn gaeedig.
Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Bod y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn adolygu’r ymholiad a godwyd gan y Cynghorydd Parkhurst ar yr honiad dienw ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf mewn eitem i’w chynnal mewn sesiwn gaeedig.