Mater - cyfarfodydd
Diweddariad Rheoli Risg
Cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 55)
55 Diweddariad Rheoli Risg PDF 144 KB
I gael sicrwydd bod y fframwaith rheoli risg diweddaraf yn gynhwysfawr ac yn weithredol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Revised framework Jan 2024, eitem 55 PDF 704 KB
- Enc. 2 - RM framework Sept 2022, eitem 55 PDF 675 KB
- Enc. 3 - Strategic Risk Register, eitem 55 PDF 513 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Rheoli Risg
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygu’r fframwaith rheoli risg ers ei gymeradwyo ym mis Medi 2022. Rhoddwyd gorolwg ar ystod o welliannau a wnaed i’r fframwaith, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ynghyd â gwybodaeth ar ymgyngoreion. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr olwg gyntaf ar y Gorolwg Risg Strategol oedd yn cynnwys holl risgiau strategol ar draws y sefydliad.
Wrth groesawu’r gwelliannau, gofynnodd y Cadeirydd a oedd y risgiau nad oedd yn dangos unrhyw gyfeiriad newid yn bryder. Roedd y swyddog yn egluro fod hyn yn adlewyrchu ble nad oedd risgiau wedi eu diweddaru ar y system Inphase eto. Ar ymholiad am sgorau risg targed realistig, eglurodd ers i bob risg gael ei fwydo i’r system, byddai’r tîm yn gweithio gyda phortffolios i adolygu a herio sgorau targed i sicrhau ei bod yn bosibl eu cyflawni.
Siaradodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr angen i wasanaethau barhau i ddiweddaru gwybodaeth ar eu risgiau perthnasol. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg er bod adroddiadau yn cael eu rhannu gyda’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar hyn o bryd, roedd yna hefyd gynlluniau ar gyfer adroddiadau misol i gael eu rhannu gyda Phrif Swyddogion i amlygu unrhyw faterion portffolio.
Yn dilyn sylwadau ar berchnogaeth wleidyddol, roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn awgrymu bod geiriad yn y fframwaith yn diffinio prif gyfrifoldeb Aelodau’r Cabinet yn fwy clir mewn perthynas â rheoli risg.
Roedd Sally Ellis yn pwysleisio pwysigrwydd defnydd cyson o Inphase a’r angen i adlewyrchu’r potensial ar gyfer risgiau gweithredol i ddatblygu yn risgiau strategol o fewn y fframwaith, er enghraifft yr adroddiad Oren/Coch ar Wiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roedd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yn cytuno i ystyried hyn ac eglurodd bod adroddiadau archwilio yn nodi risgiau heb eu cynnwys ar y gofrestr wedi eu rhannu gyda’r tîm Rheoli Risg. Roedd yn cytuno i ehangu ar rolau a chyfrifoldebau o fewn y fframwaith i gynnwys yr arfer o wahodd perchnogion risg strategol i egluro mesurau lliniaru. Roedd sylwadau ar gynnwys gwybodaeth tuedd hirdymor ar y dangosfwrdd wedi eu nodi a byddent yn cael eu cynnwys wrth i’r system ddatblygu dros amser.
Roedd y Cynghorydd Allan Marshall yn gofyn am eglurder ar reoli canlyniadau risgiau cadarnhaol. Eglurodd swyddogion y byddai modiwl ar wahân oedd yn cael ei ddatblygu yn cynnwys budd rheoli risg ac y byddai swyddogion yn ystyried os gallai hyn gael ei adlewyrchu yn well yn y fframwaith.
Roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn cyfeirio at gynigion Llywodraeth Cymru yngl?n â’r risg yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac yn awgrymu bod swyddogion yn ystyried gweithdai i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar unrhyw newidiadau.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Fframwaith Rheoli Risg diwygiedig (Ionawr 2024); a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn Adroddiad Gorolwg Risg Strategol y Cyngor.