Mater - cyfarfodydd
Cod Llywodraethu Corfforaethol
Cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 56)
56 Cod Llywodraethu Corfforaethol PDF 124 KB
Cadarnhau’r adolygiad o’r Cod Llywodraethu Corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Code of Corporate Governance, eitem 56 PDF 575 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cod Llywodraethu Corfforaethol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad blynyddol y Cod Llywodraethu Corfforaethol cyn i'r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried. Dywedodd fod y ddogfen yn parhau heb ei newid yn bennaf ac yn amlygu prif feysydd oedd yn cynnwys y fframwaith a saith egwyddor arfer da a ddefnyddiwyd ar gyfer y Cod.
Roedd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi siarad am ddolenni gyda dogfennau allweddol fel y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a Chynllun y Cyngor.
Pan ofynnwyd gan Sally Ellis am unrhyw ddulliau llywodraethu ychwanegol y gellir eu hadlewyrchu yn y Cod, roedd swyddogion yn rhoi sicrwydd ar gadarnrwydd y Cod, ar ôl bod yn destun adolygiad ac ymgynghoriad cynhwysfawr.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan Brian Harvey a’r Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol fel y’i diwygiwyd i gael ei fabwysiadu fel rhan o Gyfansoddiad y Cyngor.