Mater - cyfarfodydd
Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24
Cyfarfod: 07/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 82)
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor yn hanner cyntaf 2023-24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2022-23 and complaints made against Flintshire County Council during the first half of 2023-24, eitem 82 PDF 118 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Llythyr Blynyddol 2022-23 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chwynion a wnaed yn erbyn Gwasanaethau Cyngor Sir y Fflint yn hanner cyntaf 2023-24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid a Phennaeth Safonau Cwynion, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad ar berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a dderbyniwyd rhwng 1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023, ynghyd â throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio rhwng 1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. Yn ôl cais gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson, bydd manylion pellach yn cael eu rhannu ar yr amrywiadau rhwng nifer y cwynion agored ac yn weddill, a’r rhai wedi cau ar ôl deg diwrnod, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2022-23; (b) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn (2023-24) y Cyngor o ran cwynion a wnaed yn erbyn gwasanaethau yn unol â’r weithdrefn bryderon a chwynion; a (c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.24. |