Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25

Cyfarfod: 11/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 62)

62 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2024/25 a goblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a gafwyd ar 20 Rhagfyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y prif benawdau a goblygiadau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o ddatrysiadau cyllideb sydd ar gael i’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror.

 

Yn y cyfarfod blaenorol, nodwyd bod y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn £33.187m gyda datrysiadau ariannu posibl o £22.097m gan adael cyfanswm o £11.090m yn weddill.  Cyhoeddwyd Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr a gwahoddwyd unigolion i gyflwyno eu hymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 2 Chwefror.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun dros dro yn adlewyrchu cynnydd o 2.2%, sef y cynnydd canrannol trydydd isaf yng Nghymru, ac roedd hefyd yn is na chyfartaledd Cymru gyfan sef 3.1%.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r prif benawdau a oedd wedi arwain at gynyddu’r blwch yn y gyllideb i £12.946m ac fe nodwyd bod nifer o risgiau ac effeithiau gostyngiadau grant penodol yn weddill a allai gynyddu’r ffigwr hwn ymhellach.  Byddai dau weithdy cyllideb yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y mis cyn i gynigion cyllideb terfynol manwl gael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Chwefror.

 

Holodd y Cadeirydd am effaith y gostyngiadau ar y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol a’r Grant Digartrefedd - Neb wedi’i Adael Allan.  Amcangyfrifodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod effaith y grant cyntaf oddeutu £0.430m ac fe gytunodd i rannu cyfrifiadau ar gyfer y ddau grant a sut y byddent yn darparu ar eu cyfer o fewn y gyllideb.

 

Wrth rannu ei siom yngl?n â chanlyniad Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod angen camau gweithredu i rannu dewisiadau cyllidebol i gau’r bwlch a lobio Llywodraeth Cymru i gael setliad gwell ar frys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y cyd cyn y Nadolig wedi mynegi’r pryderon am y Setliad yn glir.  Rhoddodd sicrwydd bod sylwadau cadarn wedi cael eu gwneud mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol i adolygu’r fformiwla ariannu, fodd bynnag, roedd yn amlwg mai’r GIG a Thrafnidiaeth Cymru oedd prif fuddiolwyr y cyllid cenedlaethol.  Er bod y sylwadau yn parhau, dywedodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried anfon e-bost / llythyr brys at Aelodau’r Senedd yn mynegi anfodlonrwydd y Pwyllgor yngl?n ag effaith y fformiwla ariannu.  Awgrymodd hefyd y dylid gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol y Senedd i gyfarfod gyda phob Aelod Etholedig yn Neuadd y Sir.

 

Cynigiwyd yr awgrym i gyfarfod gydag Aelodau’r Senedd gan y Cynghorydd Attridge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson bod newid i’r fformiwla ariannu ar sail angen yn yr amser oedd ar gael yn annhebygol.  Dywedodd bod yr Asesiad Gwariant Safonol dros dro yn adlewyrchu cynnydd cyfartalog tybiedig o 6.8% i Dreth y Cyngor ar draws Cymru ac y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar weithio gyda Chynghorau eraill i herio’r dybiaeth honno a cheisio cynnydd mewn Cyllid Allanol Cyfun gan Lywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Healey am effaith caledi ar y Cyngor a oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 62