Mater - cyfarfodydd

Polisi Goleuadau Stryd 2023-2028

Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 108)

108 Polisi Goleuadau Stryd 2023-2028 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd mai’r tro diwethaf i’r polisi gael ei adolygu oedd yn 2015 pan gafodd y safonau eu diwygio ar gyfer atgyweirio diffygion goleuadau stryd ac roedd amlder archwiliadau min nos wedi eu hadolygu, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar gyfer goleuadau dros dro a gostwng goleuadau.

 

Roedd y polisi drafft yn cynnwys y cyfrifoldebau, y gofynion a’r safonau ar gyfer holl oleuadau priffyrdd cyhoeddus allanol newydd ac wedi’i anelu i gynnwys, ble bynnag bo hynny’n ymarferol, holl godau ymarfer a deddfwriaeth perthnasol, ynghyd ag arfer gorau a pholisïau cenedlaethol.  

 

Roedd y polisi diwygiedig a gyflwynir i’w ystyried gyda’r adroddiad yn cymryd i ystyriaeth seilwaith trydanol ychwanegol, fel gwefru cerbyd trydan, arwyddion a ysgogir gan gerbydau a diffibrilwyr.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd diweddar ac roedd eu sylwadau wedi eu cynnwys yn y ddogfen. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roberts, cadarnhaodd Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd bod y trefniadau gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar allu talu tuag at gadw goleuadau ymlaen yn parhau yr un fath. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod perfformiad y portffolio yn erbyn y safonau a pholisi presennol yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y polisi Goleuadau Stryd diwygiedig yn cael ei gefnogi.