Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24
Cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet (eitem 103)
103 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023 / 24 PDF 135 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd a wnaed yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023 / 28.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Plan 2023/24 Mid-Year Performance Report, eitem 103 PDF 4 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023 / 24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer sefyllfa canol blwyddyn 2023/24.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd
perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targed sefyllfa canol blwyddyn ar hyn o bryd.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys cynnydd yn erbyn y camau a’r mesurau oedd yn cael eu monitro a’u diweddaru yn chwarterol. Byddai cynnydd yn erbyn y mesurau blynyddol o fewn Cynllun y Cyngor yn cael eu casglu o fewn Adroddiad Perfformiad Diwedd y Flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;
(b) Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau/dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi; a
(c) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.